DS Gwil Thomas wedi dychwelyd i'w hen ysgol
Mae disgyblion ysgol uwchradd yn ne Gwynedd wedi bod yn dysgu am y ffordd y mae gwaith yr heddlu wedi datblygu, trwy astudio achos o lofruddiaeth yn yr ardal 200 mlynedd yn ol.

Mae disgyblion Blwyddyn 9, Ysgol Ardudwy wedi bod yn edrych eto ar hanes morwyn leol o’r enw Mary Jones a gafodd ei llofruddio yn 1812.

Ac fe ddaeth y Ditectif Ringyll Gwil Thomas – cyn-disgybl o’r ysgol a gafodd ei fagu yn y tŷ lle bu’r llofruddiaeth ym Mhenrhyndeudraeth – yn ei ol i’w hen ysgol, i ddweud sut y mae ymchwiliad troseddol yn gweithio.

Pwrpas y prosiect yw gwella sgiliau ysgrifennu a llafar y disgyblion a’u cyflwyno i rai o gysyniadau ac arferion gwyddoniaeth fforensig.

“Dadl ddiddorol iawn”

“Yn groes i be’ oedd rhai o fy nghydweithwyr wedi’i ddweud wrth ddisgyblion, doeddwn i ddim yn rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol i’r llofruddiaeth!” meddai Gwil Thomas.

“Unwaith y cafodd y disgyblion eu hargyhoeddi o hynny, mi gawson ni ddadl ddiddorol iawn o ran beth sy’n creu tystiolaeth, a beth sydd ddim, a phwysigrwydd technegau fforensig ac ymchwilio.”#

Pwy oedd yr Hwntw Mawr?

Thomas Edwards (yr Hwntw Mawr) oedd y dyn olaf i gael ei grogi’n gyhoeddus yn Sir Feirionnydd, a hynny ar Ebrill 17, 1813.

– Mae cofnodion yn dweud ei fod yn ddyn o faint a chryfder anarferol… ond er gwaethaf ei lyswnw, gogleddwr oedd o a fu’n gweithio yng ngweithfeydd Mynydd Parys.

– Fe ddaeth enw’r Hwntw Mawr yn enwog pan lofruddiodd forwyn 18 oed o’r enw Mary Jones gyda gweill gneifio, pan gafodd ei ddal yn ceisio dwyn arian o ddror y ffermdy lle’r oedd hi’n gweithio. Roedd yr Hwntw’n un o’r gweithwyr cydnerth oedd wedi’u cyflogi i drwsio’r cob ym Mhorthmadog wedi storm.

– Er iddo ddianc sawl gwaith, fe aed â’r Hwntw Mawr i garchar Dolgellau, ac yn y dref honno y cafodd ei grogi’n gyhoeddus.