Mae’r stryd fawr yng Nghymru mewn “cyflwr da” o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl astudiaeth gan Pricewaterhouse Coopers (PwC), fe gaeodd 146 siop yng Nghymru y llynedd, ond fe agorodd 120 siop newydd – felly bu cwymp net o 26 yn nifer y siopau.

Ond er y cwymp, mae’r ystadegau yn awgrymu bod Cymru yn gwneud yn well nag rannau eraill o Brydain.

O ystyried y ffigyrau net, fe gaeodd 182 siop yn ne ddwyrain Lloegr y llynedd, a 232 o siopau yn Llundain.

“Canol trefi yn newid”

“Mae’r ymchwil yn amlygu’r ffaith bod canolau trefi yn newid,” meddai Cyfarwyddwr tîm Cymru PwC, Matthew Lister.

“Mae safleoedd hamdden yn parhau i ddisodli’r stryd fawr ac mae’r awydd cynyddol am fwyd cyflym a siopau coffi yn llenwi’r gwagle sydd wedi ei adael gan fanciau a siopau dilla

“Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod llai o siopau wedi cau – fel ffigwr net – yng Nghymru o gymharu ag ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig gan gynnwys Llundain a de ddwyrain Lloegr,” meddai. “Mae’n bosib fydd ailasesiadau cyfraddau busnes yn cefnogi parhad y tuedd yma yn 2017.”

Mae Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd ymysg y trefi a dinasoedd yng Nghymru, lle caeodd mwy o siopau nag a gafodd eu hagor.