Dean Collins (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn 23 oed o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am achosi marwolaeth plentyn ei bartner drwy yrru’n beryglus.

Roedd Dean Collins wedi gwadu’r cyhuddiad o ladd Joseph Smith, pump oed, drwy yrru’n beryglus ac o achosi anafiadau difrifol i nifer o deithwyr, gan gynnwys ei bartner Laura Bright a mam-gu’r plentyn, Michelle Holmes.

Roedd e hefyd wedi wynebu cyhuddiadau o achosi anafiadau difrifol i deithwyr car oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall pan darodd i mewn iddyn nhw ar ochr anghywir y ffordd yng Nghaerdydd ym mis Medi 2015.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd ei fod e wedi cymryd cocên cyn y gwrthdrawiad.

Cafwyd e’n euog yn Llys y Goron Caerdydd gan y barnwr Eleri Rees o bum cyhuddiad, a chafodd ei garcharu am chwe blynedd a’i wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De fod “cerbydau’n gallu bod yn beryglus yn y dwylo anghywir”.

Fe ddywedodd fod Dean Collins wedi methu â sicrhau bod Joseph Smith yn ddiogel yn y cerbyd, ac y byddai’n “rhaid iddo fyw gyda hynny am weddill ei oes”.