Pili Pala (Llun: Will Langdon, Butterfly Conservation)
Mae cwymp wedi bod yn niferoedd sawl math o bili-palaod yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Y flwyddyn yma yw’r waethaf erioed o ran niferoedd iâr fach y graig a’r brith perlog bach gwyn, yn ôl cynllun monitro pili-palaod sefydliad Cadwraeth Pili-palaod.

Rhwng 2015 a 2016, brith y gors welodd y cwymp mwyaf yng Nghymru gyda chwymp o 60% ac yn rhannau o Gymru bu cwymp o 24% yn niferoedd y gwibiwr brith.

Mae’n debyg mai gaeaf mwyn ynghyd â gwanwyn oer sydd yn bennaf gyfrifol am y cwymp ymhlith rhywogaethau cyffredin a phrin.

Yn ôl arbenigwyr mae gaeafau mwyn yn medru arwain at fwy o bili-palaod yn cael eu lladd gan glefydau ac ysglyfaethwyr.

“Peri gofid i fywyd gwyllt a phobol”

“Yn anffodus, roedd tywydd hafaidd hyfryd 2016 ddim yn ddigon i helpu codi niferoedd pili-palaod ar ôl cyfres o flynyddoedd gwael,” meddai Pennaeth Monitro Cadwraeth Pili-palaod, yr Athro Tom Brereton.

“Mae’r canlyniadau yn dangos bod pili-palaod yn cael trafferth wrth ddelio â newid hinsawdd a’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’r amgylchedd. Gan fod niferoedd pili-palaod yn tueddu adlewyrchu iechyd yr amgylchedd, mae hyn yn peri gofid i fywyd gwyllt a phobol.”