Mae’r canran o bobol sydd yn ddi-waith yng Nghymru wedi codi i 4.9% yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl adroddiad y Swyddfa Ystadegau roedd 74,000 yn ddi-waith yng Nghymru rhwng Rhagfyr a Chwefror, sydd yn gynnydd o 8,000 o gymharu â’r ffigwr rhwng Medi a Thachwedd 2016.

O holl ardaloedd y Deyrnas Unedig, Cymru welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd diweithdra (cynnydd o 0.5%), gyda Llundain yn ail (cynnydd o 0.3%).

Er hyn mae Cymru hefyd wedi gweld cynnydd o 0.5% i’r canran o bobol sydd wedi eu cyflogi – dim ond de orllewin Lloegr sydd wedi gweld cynnydd uwch.

Mae’r canran o bobol sydd yn ddi-waith ledled gwledydd Prydain oll wedi disgyn i’w lefel isaf mewn degawd ac mae’r canran o bobol sydd wedi eu cyflogi ar ei gydradd uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1971.