Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol alw am “dalent ffres, syniadau newydd ac angerdd” yng nghynghorau Cymru wrth lawnsio eu hymgyrch etholiadau lleol heddiw.

Wrth annerch y blaid yn Aberteifi mae disgwyl i Arweinydd y blaid yng Nghymru, Mark Williams, dynnu sylw at  “hunanfoddhad, balchder, a diogi yn ein cynghorau lleol”.

Bydd hefyd yn ymrwymo i frwydro am “gynghorau atebol” ac i sicrhau na fydd “unrhyw un yn ein cymunedau yn cael ei gadael ar ôl.”

Mae 280 ymgeisydd yn sefyll ar ran y blaid eleni gyda 75 yn sefyll yng Nghaerdydd.

Enillodd y blaid 72 sedd yn yr etholiadau lleol yn 2012, cwymp sylweddol o gymharu â’u 163 sedd yn 2008.