Bydd Gwynedd a Môn yn “gorfod caniatáu datblygiadau niweidiol i’r Gymraeg” yn y dyfodol, os bydd datblygwyr yn dangos y gallan nhw leihau “rhyw gymaint” ar y niwed.

Dyna fydd argymhelliad swyddogion cynllunio yr Uned Polisi Cynllunio sy’n creu’r Cynllun Datblygu Lleol ar ran y ddau gyngor sir ar gyfer Grandawiad Cyhoeddus ddiwedd y mis hwn.

Fe fydd polisi iaith cynllun dadleuol Gwynedd a Môn yn cael ei drafod mewn gwrandawiad yng Nghaernarfon ar Ebrill 26. Yn ol mudiadau iaith, mae’r Gymraeg yn “gwbwl agored i’w niweidio” oherwydd nad ydi’r drefn gynllunio yn cynnig unrhyw amddiffyniad iddi yn lleol nac yn genedlaethol.

Llythyr

Mewn llythyr y mae copi ohono wedi dod i law golwg360, mae Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn (sydd â chynrychiolaeth o Gylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai) yn dadlau tros un cymal penodol sydd wedi’i newid:

“Rydym wedi sylwi bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad, wedi newid cymal sy’n gwrthod cynigion fyddai ‘yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith cynllunio priodol’.

“Mae’r cymal yn dal i ddatgan bod datblygiad niweidiol yn dderbyniol os gellir lleihau rhyw gymaint ar y niwed. Nid oes diffiniad o ‘sylweddol’ na ‘boddhaol’, ac mae unrhyw gyfeirio at ‘liniaru’ yn rhagdybio niwed,” meddai’r llythyr wedyn.

“Nid oes amddiffyniad i’n hiaith rhag niwed yn y cymal hwn. Erfyniwn yn daer arnoch i adfer y cymal gwreiddiol.”

Agor y drws…

Mae’r mudiadau iaith hefyd yn dadlau y bydd y polisi iaith fel ag y mae yn effeithio “bob math o ddatblygiadau tai” yng Ngwynedd a Môn.

“Mae’r sefyllfa’n anfoddhaol, ond mae’n ymddangos bod un cyfle ar ôl i gywiro’r sefyllfa, a hynny pan fydd y polisi iaith – a’r cymal dan sylw yn benodol – yn cael ei ystyried eto yn y Gwrandawiad Cyhoeddus olaf gan yr Arolygydd Cynllunio sy’n gyfrifol am archwilio’r Cynllun,” medden nhw.

“Gofynnwn i bawb sy’n pryderu ynghylch y sefyllfa i anfon at yr Uned a’r deilyddion portfolio cynllunio i gefnogi ein cais gynted ag y bo modd.”

Mae dau Aelod Cynulliad, Siân Gwenllian a Llyr Huws Gruffydd, ymhlith y rhai sydd wedi anfon sylwadau at y ddau gyngor yn galw am osod y cymal gwreiddiol yn ei ôl yn y polisi iaith.