Mae hi’n “anhygoel” bod BBC Cymru wedi hysbysebu am Bennaeth Newyddion fydd ddim yn gorfod siarad Cymraeg, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae hi’n hanfodol bod y pennaeth newydd – a fydd yn arwain ystafell newyddion sy’n cynhyrchu rhaglenni i S4C a Radio Cymru – yn medru siarad Cymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Ond nid yw’r Pennaeth Newyddion presennol, Mark O’Callaghan, yn medru’r Gymraeg chwaith.

Fore Mawrth, fe gysylltodd golwg360 gyda BBC Cymru i gyfleu pryderon nad oedd yn hi’n hanfodol nac yn ddymunol i’r Pennaeth Newyddion newydd fedru siarad Cymraeg, yn ol y disgrifiad swydd. Erbyn y pnawn, roedd BBC Cymru yn dweud wrth golwg360 eu bod wedi “gwneud camgymeriad” wrth hysbysebu.

“Fe ddylai’r hysbyseb ar gyfer y swydd hon fod wedi nodi bod y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond ddim yn hanfodol,” meddai llefarydd BBC Cymru.

“Mae’n cael ei newid i adlewyrchu hyn. Ein ffocws yw penodi’r unigolyn gorau posib sydd â’r cyfuniad iawn o sgiliau golygyddol ac arweinyddol.”

Yr hysbyseb gwreiddiol 

Yn eu hysbyseb gwreiddiol roedd BBC Cymru yn dweud eu bod yn chwilio am Bennaeth Newyddion sydd ‘yn gyfrifol am ddarparu newyddion lleol, cenedlaethol a rhynwgwladol ar radio, teledu ac ar-lein – yn Gymraeg ac yn Saesneg – i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DU… Nid yw’n hanfodol i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon’.

Mae’r hysbyseb yn sôn bod angen ‘profiad newyddiadurol helaeth… gyda chrebwyll olygyddol gref… a chefndir amlwg o arwain timau newyddion mawr a chymhleth’.

“Anhygoel”

Ond roedd y ffaith nad oedd y Gymraeg hyd yn oed yn ‘ddymunol’ yn yr hysbyseb gwreiddiol, wedi cynddeiriogi Cymdeithas yr Iaith.

“Mae hyn yn anhygoel,” meddai Carl Morris, Cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n dangos nad yw’r BBC yn ystyried y Gymraeg yn rhan greiddiol o’u gwasanaethau; ac mae’n adlewyrchu’n wael iawn ar statws y Gymraeg o fewn y gorfforaeth. Mae hanner allbwn y BBC yng Nghymru yn Gymraeg, sut allai rhywun reoli hynny heb fedru’r Gymraeg? Mae gweithwyr y BBC yn haeddu derbyn rheolaeth drwy’r Gymraeg, dyna yw eu hawliau gwaith wedi’r cwbl.

“Mae pobol wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am driniaeth penaethiaid y BBC o’r Gymraeg, ond dyw’r penaethiaid ddim yn newid eu hagwedd.

“Yn sicr, dyw’r BBC ddim yn haeddu rheoli gwasanaethau newyddion S4C. Os ydyn ni’n mynd i gael system ddarlledu sy’n rhoi normaleiddio’r Gymraeg ar frig yr agenda, bydd rhaid ei ddatganoli i Gymru.”

Mewn atodiad i’r hysbyseb, mae’r BBC yn brolio mai dyma ‘sefydliad mwyaf creadigol y byd’, ac mae’r staff ‘yn amrywiol, yn greadigol, yn feddylgar, yn dalentog ac yn chwilfrydig, ac mae angen arweinyddiaeth wych arnynt’.

Ond nid oes yr un gair am yr iaith Gymraeg yn yr atodiad Ein Cenhadaeth a’n Gwerthoedd, nac ychwaith yn y disgrifiad swydd llawn.