Criw o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn datblygu meddalwedd Macsen (Llun: Prifysgol Bangor)
Mae offer newydd yn cael ei dreialu ar hyn o bryd i gynhyrchu lleisiau Cymraeg i ddarllen testun yn uchel oddi ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau symudol.

Mae’r cynllun, Macsen, yn cael ei ddatblygu gan Brifysgol Bangor ac Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

Esboniodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr uned, eu bod yn gobeithio datblygu’r system i fod yn debyg i Siri neu Alexa gan ddefnyddio lleisiau gwahanol hefyd.

“Rydyn ni wir yn teimlo ein bod ni wedi torri drwodd eleni, nid yn unig i ddarparu technoleg bwysig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel patrwm i ieithoedd bach eraill ei ddilyn, a datblygu adnoddau tebyg,” ychwanegodd Delyth Prys o’r uned.

RoboLlywydd

Cafodd y criw gyfle i roi’r prosiect ar waith yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar gan ddatblygu llais o’r enw ‘RoboLlywydd’ i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Roedden ni eisiau’r modd i allu darparu lleisiau synthetig i blant ac oedolion sydd yn siarad Cymraeg ond ar fin colli eu llais eu hun oherwydd llawdriniaeth neu gyflwr meddygol,” meddai Dewi Bryn Jones.

“Dipyn bach o hwyl oedd galw’r llais newydd yn ‘RoboLlywydd’, ond mae’n dangos beth sy’n bosib,” ychwanegodd.

Mae modd gwrando ar y lleisiau enghreifftiol yma.