Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cynllun peilot sydd ar waith yn ne Cymru i fynd i’r afael â diagnosis canser ynghynt.

Wrth eu holi a fyddai’r cynllun yn rhywbeth y byddent am ei ddatblygu ar draws Cymru dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth – “rydym yn croesawu gweld dulliau newydd o adnabod canser yn cael eu profi.

“Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r cynllun peilot hwn yn cael eu datblygu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf,” meddai’r llefarydd.

Y cynllun

Mae’r cynllun gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn efelychu system sydd ar waith yn Nenmarc drwy ganolbwyntio ar gleifion y mae meddygon teulu yn amau fod ganddynt ganser er nad oes arwyddion ganddynt.

Bydd meddygon teulu yng Nghwm Cynon yn medru cyfeirio cleifion y maen nhw am gadw llygad arnyn nhw at ganolfan ddiagnostig Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant o fewn saith diwrnod.

‘Croesawu’n fawr’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cynllun gyda’r AC Angela Burns yn dweud – “am rhy hir nawr mae cleifion canser yng Nghymru wedi wynebu rhai o’r cyfraddau goroesi gwaethaf yn y byd datblygedig, felly mae’r cynllun hwn yn cael ei groesawu’n fawr.”

“Mae diagnosis cynnar o ganser yn rhoi gwell siawns o oroesi, ac os gall y peilot hwn leihau’r nifer o gleifion yn wynebu ymyrraeth hwyr fe fydd hefyd yn rhyddhau cyllid hollbwysig i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” ychwanegodd.