Ogof Arthur, sy'n rhan o ymgyrch farchnata Blwyddyn y Chwedlau
Mae hwb gwerth £24 miliwn i’r diwydiant dwristiaeth er mwyn datblygu cynnyrch a marchnata Cymru i’r byd, wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r buddsoddiad o’r Rhaglen Datblygu Gwledig sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i roi hwb ariannol i’r sector preifat drwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, ac er mwyn cefnogi ymgyrch farchnata Blwyddyn y Chwedlau.

Mae ffigurau ar gyfer 9 mis cyntaf 2016 yn dangos y bu cynnydd sylweddol o 12% yn nifer yr ymwelwyr tramor ddaeth i Gymru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a bu cynnydd o 9% yn eu gwariant.

“Cyfraniad sylweddol”

“Bydd y buddsoddiad hwn gan y Rhaglen Datblygu Gwledig yn gyfraniad sylweddol at y gwaith o ddatblygu’r cynnyrch sydd gennym yma yng Nghymru ac o farchnata Cymru i’r byd,” meddai Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates.

“Hefyd, bydd yn ein galluogi i sicrhau bod yr amwynderau iawn ar gael yn lleol; annog gwaith i ddatblygu cynnyrch arloesol sydd o’r ansawdd uchaf; ac y bydd yn ein helpu i werthu’r  nwyddau hyn ar draws y byd drwy weithgarwch marchnata Croeso Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld bydd mwy na £100 miliwn wedi ei fuddsoddi yn niwydiant twristiaeth Cymru erbyn 2020.