Mae cwmni rhwydweithiau ffôn mwyaf y Deyrnas Unedig, EE,  wedi cyhoeddi eu bod am greu 60 o swyddi newydd ym Merthyr Tudful.

Mae EE eisoes yn cyflogi 800 o bobol yn eu canolfan yno a daw’r cyhoeddiad fel rhan o gynllun y cwmni i gyflogi 800 o ymgynghorwyr newydd ar gyfer eu canolfannau cyswllt ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal â Merthyr Tudful, mae’r cwmni yn bwriadu creu swyddi newydd yng Ngogledd Tyneside, Darlington, Greenock, Plymouth a Doxford.

Mae EE hefyd yn bwriadu buddsoddi yn rhwydwaith 4G Cymru, fel bod darpariaeth o’r rhwydwaith ar gael dros 90% o dir Cymru erbyn diwedd y flwyddyn – ar hyn o bryd dim ond 40% o lefydd yng Nghymru sy’n cael 4G.

“Newyddion gwych”

“Rydw i wrth fy modd bod EE yn mynd i recriwtio 60 ymgynghorydd newydd yn eu canolfan gyswllt ym Merthyr,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Dyma newyddion gwych i’r economi leol, yn enwedig o ystyried ymrwymiad EE i hyfforddi a datblygu staff a’u cynorthwyo i symud ymlaen ac adeiladu gyrfaoedd hir dymor.”