Llys y Goron Abertawe
Mae dyn o Sir Gâr wedi’i garcharu am bum mlynedd am losgi ei dŷ yn ulw wedi iddo fethu â thalu ei forgais.

Fe wnaeth Charles Chestnut, 55 oed, losgi ei ffermdy Pontyrhodyn yn Efailwen fis Medi’r llynedd wedi i’r eiddo oedd yn werth £250,000 gael ei adfeddiannu gan  Gymdeithas Adeiladu Swydd Efrog yn 2014.

Gwrthododd Charles Chestnut adael ei gartref er iddo gael gorchymyn i symud, a bu dwy flynedd o frwydr gyfreithiol rhyngddo ef â’r gymdeithas adeiladu wedi hynny.

‘Llosgi bwriadol’

Roedd Cymdeithas Adeiladu Swydd Efrog wedi ceisio gwerthu’r ffermdy, ac roedd gwrandawiad yn erbyn Charles Chestnut wedi’i drefnu ar gyfer Medi 19 y llynedd.

Ond ni wnaeth y gŵr fynychu’r gwrandawiad a dyna pryd cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddelio â’r ffermdy oedd wedi llosgi i’r llawr ac sy’n werth £80,000 erbyn hyn.

Cafodd ei ddedfrydu gan Lys y Goron Abertawe am losgi bwriadol a dywedodd y barnwr Geraint Walters – “y gwir amdani yw eu heiddo nhw oedd hwn nid eich eiddo chi,” meddai gan gyfeirio at y gymdeithas adeiladu.

“Roedd y drosedd yn fy marn i yn amlwg fwriadol. Roedd wedi’i gynllunio o flaen llaw. Fe achosodd golled ariannol ddifrifol i’r perchennog, sef y gymdeithas adeiladu,” ychwanegodd.