Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae nifer y plant sy’n gofyn am gymorth yn gysylltiedig ag iselder a phryderon am hunan laddiad, wedi cynyddu, yn ôl ystadegau swyddogol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod cynnydd o 25.8% wedi bod yn nifer y plant sydd yn cael eu cwnsela yn gysylltiedig â phryderon am hunan laddiad.

Rhwng 2014 a 2015 cafodd 244 o blant eu cynghori yn gysylltiedig â phryderon am hunanladdiad ond cododd y ffigwr i 307 rhwng 2015 a 2016.

Gwnaeth 11,337 o blant dderbyn gwasanaethau cwnsela rhwng 2015 a 2016, gyda 3,949 yn pryderu am faterion yn ymwneud â’u teuluoedd a 1,408 yn derbyn cymorth am broblemau gorbryder.

Ymysg plant blwyddyn 10 oedd y nifer uchaf o achosion o gwnsela (2,326) ac o’r awdurdodau lleol yng Nghymru, Rhondda Cynon Taf oedd a’r nifer uchaf o blant yn cael eu cwnsela (1,607).

Gwasanaethu a buddsoddi

“Rydym wedi cymryd camau i gynorthwyo plant a phobol ifanc sydd yn wynebu anawsterau emosiynol trwy ddatblygu gwasanaethau cwnsela. O fewn ysgolion mae cwnsela yn barod yn ategu i’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi iechyd emosiynol a chymdeithasol disgyblion,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth sydd yn gofyn bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cwnsela i blant a phobol ifanc rhwng 11 ac 18 blwydd oed yn eu hardal, a disgyblion ym mlwyddyn chwech. Rydym hefyd wedi darparu £4.5 miliwn i gyllidebau awdurdodau lleol, ar gyfer diogelu parhad y gwasanaethau yma.”

 “Manteisio ar y cwricwlwm newydd”

Yn ôl llefarydd plant y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cwricwlwm newydd yng Nghymru i fynd i’r afael a’r cynnydd.

“Mae nifer o’r problemau yma yn gysylltiedig â’r defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau sydd mor gyffredin ymysg pobol ifanc,” meddai. “Mae datblygiad cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i ni i ddelio â’r problemau yma yn uniongyrchol.”

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnwys agweddau sydd yn datblygu gwydnwch emosiynol ymysg ein pobol ifanc ac yn eu gwneud yn fwy ymwybodol o beryglon ar y we, ac effaith bwlio trwy gyfryngau cymdeithasol.”