Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Downing Street wedi cadarnhau fod y Prif Weinidog ar “wyliau cerdded” yng Nghymru’r wythnos hon.

Dros y penwythnos, cafodd Theresa May ei gweld mewn ardaloedd o Wynedd ac mae’n debyg iddi ymweld â siop grefftau Celf Aran yn Nolgellau.

Mae llefarydd ar ei rhan wedi cadarnhau ei bod yn cadw mewn cysylltiad â’r datblygiadau yn Syria wrth i uwch-gynhadledd gwledydd y G7 gael ei gynnal yn yr Eidal heddiw.

Fel rhan o’r gynhadledd mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi rhybuddio y gallai’r Unol Daleithiau gynnal rhagor o ymosodiadau ar Syria i roi pwysau ar lywodraeth Bashar Assad yn Syria.

Gwyliau cerdded

“Mae’n wyliau cerdded yn fwy na dim. Mae’r Prif Weinidog yn gwneud galwadau ac yn cael ei diweddaru’n gyson,” meddai’r llefarydd ar ran Theresa May.

Mae’n debyg fod Theresa May wedi cynnal sgwrs ffôn â Phrif Weinidog Canada, Justin Trudeau, nos Sul gyda’r ddau’n mynegi eu cefnogaeth i weithgarwch yr Unol Daleithiau wrth ymateb i’r ymosodiad cemegol yn Syria yr wythnos diwethaf.