Mae angen ymchwil pellach er mwyn datblygu cyffuriau gwell i drin clefyd Parkinson, yn ôl elusen.

Dywed Parkinson’s UK bod angen gweithredu ar frys gan nad oes unrhyw feddyginiaeth ar hyn o bryd sydd yn gallu arafu neu atal lledaeniad y cyflwr.

Nid yw’r cyffur ‘levodopa’, sef y prif gyffur a gaiff ei ddefnyddio i drin y cyflwr, wedi newid ers dros 50 mlynedd  ac mae’r elusen wedi lansio apêl brys ‘Wnawn Ni Ddim Aros’ er mwyn codi’r arian sydd ei angen er mwyn gwella ymchwil yn y maes.

Mae clefyd Parkinson yn effeithio tua 8,000 o bobol yng Nghymru gyda symptomau yn cynnwys cryndod, poen, problemau cysgu a phroblemau iechyd meddwl.

Yn ôl ymchwil yr elusen mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyflwr yn isel gyda mwy na 45% o bobl yn ansicr neu’n credu ar gam ei bod yn bosibl i atal y clefyd.

 “Dal i aros am driniaeth”

“Mae pobl sydd â chlefyd Parkinson yn dal i aros am driniaeth a all daclo’r clefyd yn uniongyrchol. Gall pobl gyda Parkinson gael trafferth i gerdded, siarad a chysgu. Dyna pam yr ydym yn dweud na wnawn ni aros yn hirach,” meddai Cyfarwyddwr Parkinson’s UK yng Nghymru, Barbara Locke.

“Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Dyma’n hymgyrch cyhoeddus cyntaf erioed i godi arian, ac rydym yn gofyn ar frys i bobl yng Nghymru i roi beth bynnag a allant i gefnogi ein gwaith hanfodol. “