Carwyn Jones Llun: PA
Mae disgwyl i Lafur Cymru lansio’u hymgyrch heddiw ar gyfer yr etholiadau lleol fis nesaf wrth ymweld â Chasnewydd.

Yn ôl arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, mae nifer o ymgeiswyr y blaid eleni yn “record” wrth iddyn nhw addo “Cytundeb Teg” i gymunedau ar draws Cymru.

 

“Fe wnaeth ein canlyniadau yn 2012 osod y targed yn uchel iawn ond rydym yn dechrau’r ymgyrch hon mewn safle o gryfder,” meddai Carwyn Jones.

‘Record Llafur Cymru’

“Mae’r pum mlynedd ddiwethaf wedi gweld cynghorwyr Llafur ar draws Cymru yn rhagori yn eu cymunedau lleol ac yn darparu ar gyfer eu preswylwyr er gwaethaf toriadau mawr gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig,” meddai Carwyn Jones.  

Dywedodd fod cynghorau Llafur wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i adeiladu tai cyngor newydd, cefnogi addysg, busnesau bychain a datblygu cynlluniau adnewyddu mewn trefi a dinasoedd.

“Dyna record Llafur Cymru – partneriaeth a darparu wedi’i ategu â thegwch,” meddai.

Plaid Cymru

Un o brif negeseuon Plaid Cymru wrth ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol fis nesaf yw pwysleisio na ddylai gwasanaethau lleol gael eu hisraddio.

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, “mae’r etholiadau hyn yn gyfle i anfon neges i Lafur ym Mae Caerdydd a’r Ceidwadwyr yn San Steffan na fydd pobol yn goddef mwy o weld eu gwasanaethau lleol yn cael eu hisraddio neu eu gwerthu.”

 

Ychwanegodd eu bod am greu mwy o swyddi a phrentisiaethau lleol, adfywio canol trefi a chreu cymunedau “glanach a saffach.”

“Prif amcanion Plaid Cymru yw gwasgaru cyfoeth ledled y wlad, i dorri cyflogau uwch swyddogion cyngor a rhoi hwb i gyflogau gweithwyr cyffredin,” meddai’r llefarydd.

“Mae gennym dîm cryf o bencampwyr cymunedol sy’n barod i frwydro dros ddyfodol gwasanaethau lleol ym mhob cwr o’r wlad.”

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn canolbwyntio’u hymgyrch ar ardaloedd fel Caerdydd, Ceredigion, Powys a Wrecsam ar gyfer etholiadau’r cynghorau fis nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod yn disgwyl “cynnydd yn y gefnogaeth” yn yr ardaloedd hyn.

“Rydym hefyd yn disgwyl gweld cynnydd cyffredinol yn ein cefnogaeth ar draws Cymru o Sir Gâr a Sir Benfro i Sir Fynwy; ardaloedd ble nad oes traddodiad o bleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai’r llefarydd.
“Mae pobol wir yn poeni am ddyfodol eu cymunedau, ein gwlad a’n heconomi ac yn galw am leisiau Rhyddfrydol i genhadu ar gyfer Cymru a Phrydain agored, goddefgar ac unedig.”

“Mewn ardaloedd sydd wedi gweld gwerth arweinyddiaeth gref gan y Democratiaid Rhyddfrydol, rydym yn disgwyl derbyn ymateb positif tu hwnt,” ychwanegodd.

Bydd sylw i ymgyrchoedd y pleidiau eraill mewn cyfres gan Golwg360 yr wythnos hon.