Mae rheolau newydd yn dod i rym heddiw sy’n golygu fod trothwy taliadau pobol mewn cartrefi preswyl yn codi fel bod modd iddyn nhw gadw mwy o’u harian.

Ar hyn o bryd £24,000 yw’r trothwy ar gyfer taliadau, ond bydd y swm yn codi i £30,000 o heddiw ymlaen, gyda’r bwriad o’i godi ymhellach i £50,000.

“Dw i’n falch o allu dweud y caiff pobol gadw £30,000 heb iddo gael ei ddefnyddio i dalu am eu gofal o heddiw ymlaen. Bydd hyn yn cynyddu i £50,000 dros y blynyddoedd nesaf,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Haeddu mwy o degwch’

Dywed Llywodraeth Cymru fod hyn yn un o’u prif addewidion ac yn rhan o’r cynllun pum mlynedd ‘Symud Cymru Ymlaen.’

“Mae pobol hŷn sydd wedi chwarae eu rhan ac wedi cyfrannu’n ariannol ar hyd eu hoes yn haeddu mwy o degwch,” meddai Rebecca Evans gan ddweud fod y llywodraeth wedi cyhoeddi £55miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18.

Pensiwn Anabledd Rhyfel

Yn ogystal, fe fydd Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru wrth i awdurdodau lleol gynnal asesiadau ariannol i sicrhau nad oes rhaid i gyn-filwyr ddefnyddio unrhyw ran o’r pensiwn hwnnw i dalu am eu gofal.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ariannu gofal rhywun os yw ei gyfalaf yn llai na £30,000. Os bydd yn codi swm, bydd hwnnw’n seiliedig ar yr incwm sydd ar gael i’r unigolyn.