A465 (Llun: Robin Drayton/CCA2.0)
Mae Heddlu Gwent wedi enwi dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Fenni ar Fawrth 30.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pandy ar Fawrth 30 yn dilyn adroddiadau bod pedwar cerbyd mewn gwrthdrawiad ar yr A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd).

Bu farw David Charles Price o’r Fenni ar Ebrill 6 o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.