Mae beiciwr modur wedi marw’n dilyn gwrthdrawiad â fan ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin brynhawn ddoe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger gorsaf betrol rhwng Caerfyrddin a Nantgaredig.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth.

Roedd y ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad am hyd at naw awr yn dilyn y gwrthdrawiad, wrth i’r heddlu a’r gwasanaeth tân ymateb i’r alwad frys.

Cafodd ambiwlans a’r ambiwlans awyr eu hanfon i’r safle.

Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Gwrthdrawiad ddydd Iau

Bu farw dynes yn yr un ardal yn dilyn gwrthdrawiad ddydd Iau.

Dylai unrhyw un a welodd y naill wrthdrawiad neu’r llall gysylltu â’r heddlu ar 101.