Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mhont-y-pŵl neithiwr.

Mae dau ddyn yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ag anafiadau sy’n peryglu eu bywydau yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Cwmafan.

Mae dwy ddynes hefyd yn yr ysbyty yn Y Fenni ag anafiadau difrifol.

Mae dyn a dau o blant wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ac mae dynes arall yn cael triniaeth.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad ac yn benodol am Ford Fiesta coch, Toyota Iago glas a Ford S-max arian.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.