Llun o Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdu Pen-y-bont ar Ogwr, (Llun o gyfrif Twitter Huw Irranca Davies)
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am wirfoddolwyr i estyn croeso i ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yn y sir yn ystod wythnos y Sulgwyn eleni.

Maen nhw’n awyddus i wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, neu sy’n ddysgwyr da, ymuno â’u cynllun Llysgenhadon Pen-y-bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod at yr Eisteddfod.

Grŵp o tua 20 o wirfoddolwyr yw’r Llysgenhadon sy’n ceisio ennyn diddordeb ymwelwyr yn y sir trwy fynd i ddigwyddiadau, helpu grwpiau i drefnu ymweliad a rhannu gwybodaeth leol â theuluoedd.

I fod yn rhan o’r cynllun, bydd angen dilyn dau ddiwrnod o hyfforddiant a bod ar gael am o leiaf un sesiwn hanner diwrnod yn yr Eisteddfod. Bydd y dyddiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cynnal dydd Mawrth 25 Ebrill, dydd Iau 11 Mai a dydd Mercher 24 Mai.

Mae gwybodaeth lawn am y cynllun ar www.eventbrite.co.uk wrth chwilio am Hyfforddiant Llysgenad Pen Y Bont Ar Ogwr, neu wrth gysylltu ag Angharad Wynne angharad@angharadwynne.com  / 07786256722.

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd ar faes Coleg Pencoed rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.