Mae Heddlu Gogledd Cymru’n rhybuddio am beryglon tanau eithin a rhedyn ar ôl dau ddigwyddiad yr wythnos yma.

Mae dau dân eithin a rhedyn yn ardaloedd Bodafon a Chwm Bowydd o Flaenau Ffestiniog ddydd Mercher a dydd Iau yn cael eu trin fel achosion o losgi bwriadol.

“Gall tanio eithin a rhedyn beryglu bywydau pobl ac eiddo ac arwain at wastraffu adnoddau’r gwasanaethau brys pan fo’u hangen nhw ar frys yn rhywle arall,” meddai’r Rhingyll Colin Jones.

Ychwanegodd fod yr heddlu ar wyliadwriaeth ychwanegol wedi’r tanau’r wythnos yma ac wrth i’r tywydd gynhesu.

Ymgyrch addysg

Ers dechrau mis Mawrth mae gwahanol asiantaethau yng Nghymru wedi bod yn cydweithredu ar ymgyrch Operation Dawns Glaw, i addysgu’r cyhoedd am beryglon tanau gwair ac i orfodi’r gyfraith.

“Ein nod yw cael gwared ar danau gwair bwriadol,” meddai Mick Crennell, Cadeirydd Bwrdd Strategol Lleihau Tanau Bwriadol Cymru.

“Trwy weithio gyda’n gilydd, bydd y rheini sy’n gyfrifol yn cael eu dal ac yn wynebu holl rym y gyfraith.

“Rydym yn derbyn bod llawer o ffermwyr wedi bod yn llosgi grug, gwaith, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tiroedd dros yr wythnosau diwethaf. Ond hoffwn eu hatgoffa fod y tymor llosgi yng Nghymru wedi dod i ben ar 15 Mawrth ac ar yr ucheldir ar 31 Mawrth.

“Rydym yn pwyso hefyd ar i rieni sicrhau bod eu plant yn deall bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau, ac ar aelodau’r cyhoedd i riportio unrhyw weithgareddau amheus i’r heddlu.”