Mae mudiadau iaith yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu corff i hyrwyddo’r Gymraeg.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllideb drafft ar y cyd â Phlaid Cymru fis Tachwedd y llynedd a chlustnodi £5 miliwn ar gyfer Cymraeg i Oedolion a sefydlu corff i hyrwyddo’r iaith – ‘Asiantaeth Iaith Genedlaethol’.

Bellach mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod £3 miliwn o’r swm i’w wario ar Ganolfan Cymraeg i Oedolion dan law Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant, ac mae £2 filiwn wedi ei gyfrannu at raglen i hybu’r Gymraeg.

Bydd y £2 filiwn yn cyfrannu at sefydliad ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ a ‘Phwynt Cyswllt’ ond does dim sôn am ariannu ‘Asiantaeth Iaith.’

“Angen rhyw fath o gorff”

Mae Prif Weithredwr Dyfodol yr Iaith, Ruth Richards, wedi pwysleisio’r angen am gorff hyrwyddo er mwyn gwireddu targed Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae sefydlu asiantaeth i gydlynu a hyrwyddo’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i weledigaeth Dyfodol i’r Iaith. Mi fyswn i’n gweld bod asiantaeth yn hanfodol i weledigaeth y Llywodraeth… sut mae creu miliwn o siaradwyr Cymraeg heb gael rhyw gyfrwng i hyrwyddo’r iaith, dyn a wyr?” meddai wrth golwg360.

“Hyrwyddo’r iaith yw’r flaenoriaeth ac mae angen rhyw fath o gorff i gydlynu’r broses yna, corff hyd fraich o’r Llywodraeth, corff sy’n golygu bod yna ymrwymiad i’r iaith ar draws holl adrannau’r Llywodraeth – ac mae diffyg wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.”

“Claddu”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o “gladdu’r” syniad o sefydlu’r corff

“Yn wir, mae’n edrych fel bod y syniad o sefydlu corff hyrwyddo newydd wedi’i gladdu ynghyd â’r cytundeb gyda Phlaid Cymru.”

Mae’r mudiad hefyd wedi beirniadu’r gwariant £2 filiwn ar y rhaglen hybu sydd yn cynnwys cymhorthdal cyfieithu er lles busnesau.

“Deddfu i warantu gwell darpariaeth Gymraeg yn y sector breifat sydd ei angen, nid taflu arian at gwmnïau cyfoethog iawn. Nid oes diben sybsideiddio busnesau i ddarparu pethau yn Gymraeg heb estyn y Safonau i gynnwys gweddill y sector breifat ar yr un pryd.”

Posibiliad

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fyddan nhw yn trafod y “posibiliad” o sefydlu ‘Asiantaeth Iaith’

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Bydd papur gwyn yn cael ei gyhoeddi o fewn y ddwy fis nesaf fydd yn edrych ar y posibiliad o sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg.”