Mae’r proffwydi tywydd yn addo tywydd braf a heulog dros y penwythnos.
Bydd awyr clir a heulwen dros y dyddiau nesaf a heddiw bydd ardaloedd dwyreiniol a deheuol yng Nghymru yn mwynhau tymereddau hyd at 17C.
Erbyn yfory ac am weddill y penwythnos bydd y tymheredd rhwng 18C a 19C yn y gogledd orllewin.
Yn dilyn penwythnos heulog a braf bydd y tymheredd yn dychwelyd i lefelau arferol ar fore ddydd Llun.
Mae’n debyg bydd de ddwyrain Lloegr yn mwynhau gwres 23C erbyn dydd Sul – dydd cynhesaf 2017 hyd yn hyn – ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon bydd hi’n gymylog a thipyn yn oerach.
Daw’r tywydd braf yn sgil mis Mawrth mwyn – y pumed cynhesaf ers 1910.