Mark Reckless
Mae Aelodau Cynulliad y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn cael eu cyhuddo o gymryd cam gwag trwy groesawu Mark Reckless i’w grŵp ym Mae Caerdydd.

Trwy dderbyn Mark Reckless yn Aelod Cynulliad, mae’r blaid Geidwadol wedi cymryd lle Plaid Cymru yn wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad.

Ond yn ôl rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol mae’r Aelodau Cynulliad Ceidwadol wedi peryglu eu dyfodol trwy estyn croeso i gyn-aelod o UKIP. Yr awgrym yw y gallen nhw beidio â chael eu dewis i sefyll etholiad eto yn enw’r blaid.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi mynnu nad oes unrhyw fwriad i adael i Mark Reckless ailymuno â’r Blaid Geidwadol.

Mi wnaeth yr AC Mark Reckless adael plaid UKIP ddoe er mwyn ymuno gyda grŵp y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd – yn ôl rheolau’r Cynulliad dim ond aelodau o’r blaid sydd yn medru gwneud hynny.

Er mwyn galluogi iddo fedru eistedd yn enw’r blaid, pleidleisiodd Ceidwadwyr y Cynulliad i ddiystyru eu cyfansoddiad – gweithred sydd wedi gwylltio’r blaid yn San Steffan yn ôl rhai ffynonellau.

Gwnaeth Mark Reckless adael y blaid Geidwadol yn 2014 er mwyn ymuno â UKIP, ac mae nifer o Geidwadwyr blaenllaw wedi mynnu na ddylid ei groesawu yn ôl i’r blaid.