Llun: PA
Mae cwmni archfarchnad wedi ymddiheuro i un o gynghorwyr sir Gwynedd am beidio â gwerthu wyau Pasg iddo eu dosbarthu i blant yn ysgolion cynradd ei ward eleni.

Wrth siopa yn Morrisons, Caernarfon, yr wythnos hon fe geisiodd cynghorydd Llais Gwynedd tros Lanwnda, Aeron M Jones, brynu 165 wy siocled ar gyfer plant ysgol ei ward, ond gwrthododd yr archfarchnad â’u gwerthu iddo oherwydd “prinder wyau Pasg”.

Mewn datganiad i golwg360, mae llefarydd ar ran y cwmni yn dweud eu bod yn heddiw’n ymddiheuro i Aeron Jones, a’u bod wedi ymrwymo i ddarparu niferoedd uchel o wyau i elusennau ac ysgolion.

“Rydym yn ymddiheuro ein bod wedi methu cwrdd â dymuniad y cwsmer,” medden nhw, “ond rydym yn gwneud ein gorau i gyflawni archebion gan elusennau ac ysgolion am niferoedd uchel o wyau Pasg.”

Bob blwyddyn ers 2010, mae’r cynghorydd wedi prynu rhwng 160 a 180 o wyau Pasg i ddisgyblion y tair ysgol gynradd yn ei ward – a gwneud hynny o’r un siop Morrisons yng Nghaernarfon.

Llwyddodd Aeron Jones i gael gafael ar yr wyau o Tesco yn y pen draw â “dim problem”.