Mae chwe awdurdod addysg lleol – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe – wedi ymateb i’r arolwg diweddara’ o’r byd addysg yng Nghymru, gan ddweud bod angen strategaeth glir a chynllun busnes er mwyn gwella.

Mae’r cynghorau’n gweithredu dan yr enw ymbarel, ERW (Ein Rhanbarth Gwaith).

Mae’r arolwg yn dangos bod:

– 33.6% o athrawon Cymru’n barod i adael y byd addysg yn y tair blynedd nesaf;

– 78.1% o athrawon Cymru’n teimlo mai eu llwyth gwaith yw’r peth gwaethaf am eu swyddi;

– 38.6% yn dweud nad ydyn nhw’n gyfarwydd â diwygiadau’r Athro Donaldson i’r Cwricwlwm, sy’n cael eu peilota yng Nghymru ar hyn o bryd yn y gobaith o’i gyflwyno’n llawn erbyn 2021;

– 58% o’r ymatebion yn nodi nad oedden nhw wedi defnyddio’r safonau ar gyfer athrawon wrth gwblhau eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth osod amcanion, cynllunio datblygiadau nac adolygu perfformiadau.

‘Cael darlun clir yn bwysig’

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr ERW, Betsan O’Connor, yn dweud fod “cael darlun clir o’r heriau sy’n wynebu ein staff addysgu ar hyn o bryd yn rhan bwysig o’r broses o foderneiddio a gwella’r gwasanaeth addysg fel ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol”.

Mae’n allweddol hefyd, meddai, eu bod yn “cydnabod llawer o’r heriau” sy’n cael eu codi yn yr arolwg, a bod “ystod o gyfleoedd cymorth a dysgu proffesiynol i helpu athrawon mewn nifer o feysydd allweddol”.

“Mae’r arolwg yn tynnu sylw at yr anhawster posib o gadw athrawon a phryder am lwyth gwaith holl staff yr ysgolion.”