Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi yamteb heddiw i’r ffaith bod cyn-Faer Llundain wedi’i wahardd dros dro o’r blaid Lafur, gan alw ar iddo gael ei wahardd yn llwyr. 

“Y llynedd, pan wnaeth Ken Livingstone ei sylwadau (am Adolf Hitler a Seionistiaeth), gan achosi gofid a loes mawr i’r gymuned Iddewig, fe alwais am ei wahardd o’r blaid,” meddai Carwyn Jones.

“Rwy’n dal i gredu hynny, ac yn glynu wrth yr alwad honno heddiw.

“Dyw e ddim wedi ymddiheuro, nac wedi cydnabod pa mor ddirmygus, anghynnes na dinistriol oedd ei sylwadau,” meddai Carwyn Jones eto am Ken Livingstone, “ac mae’n dal i wneud sylwadau yn agored.

“Does yna ddim lle oddi mewn i’r blaid Lafur i’r math yma o sylwadau, a dim lle chwaith i bobol sy’n pedlera’r syniadaeth hon.”