Llys Ynadon Llandudno
Bydd dyn yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw yn dilyn ymosodiad ger clwb nos ym Mangor fore Sul.

Cafodd Kieran Terrence Roberts ei gyhuddo ddydd Mawrth o lofruddio Henry Ayabowei, tad i ddau o Langefni.

Daeth heddlu o hyd i Henry Ayabowei yn anymwybodol y tu allan i glwb Peep, Bangor ar Ebrill 1. Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno fore Sul, Ebrill 2.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i unrhyw un a welodd, neu a siaradodd â Kieran Roberts rhwng 4yh Mawrth 31 a 2yb Ebrill 1, gysylltu â nhw.