Llun: PA
Mae adroddiad gan elusen sy’n cynrychioli meithrinfeydd dydd wedi codi cwestiynau ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i wireddu eu haddewid maniffesto i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim.

Yn ôl adroddiad Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) Cymru, mae meithrinfeydd yn cael trafferth i gadw eu busnesau i fynd oherwydd diffyg buddsoddiad, prinder staff, a chostau busnes cynyddol.

Sector meithrinfeydd Cymru yw’r un “mwyaf bregus ym Mhrydain” yn ôl yr adroddiad, ac mae angen “gweithredu ar fyrder” os ydy’r Llywodraeth am wireddu eu haddewidion i rieni.

Mae’r adroddiad hefyd yn barnu’r diffyg meithrinfeydd yn y sector breifat a dywed bod bodolaeth “meithrinfeydd sector breifat a gwirfoddol yn hanfodol”.

Roedd y meithrinfeydd a gafodd eu holi fel rhan o’r adroddiad, ar gyfartaledd yn colli pedwar aelod o staff bob blwyddyn.

“Codi cwestiynau”

“Mae’r adroddiad yn codi cwestiynau ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i wireddu eu haddewid maniffesto i gynnig gofal plant am ddim,” meddai llefarydd plant y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar.

“Mae’n glir bod meithrinfeydd dros y sector yn dioddef oherwydd lefelau annigonol o fuddsoddiad a’r modd y mae gweinidogion Llafur wedi adolygu cyfraddau busnes newydd, gyda nifer o ddarparwyr yn gwneud colled sylweddol bob blwyddyn o ganlyniad.”

“Fe fydd teuluoedd ar draws y wlad yn edrych yn bryderus at Lywodraeth Cymru am sicrwydd y bydd eu haddewid am ofal plant am ddim am 30 awr, yn cael ei gynnal.”