Llun: PA
Mae cynnydd wedi bod yn nifer y meddygon iau sydd yn dewis hyfforddi i fod yn feddygon teulu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae cynnydd o 16% wedi bod yn nifer y llefydd hyfforddi meddygon teulu sydd wedi’i llenwi hyd yn hyn, o gymharu â llynedd.

Ar hyn o bryd mae 84% o lefydd hyfforddi wedi eu llenwi o gymharu â 68% ar yr adeg hon y llynedd.

Cymhelliant ariannol

Daw’r newyddion yn sgil ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i gynnig £20,000 i feddygon iau er mwyn eu hannog i hyfforddi a gweithio mewn ardaloedd lle oedd prinder staff.

Mewn rhai ardaloedd lle cafodd y cymhelliant ariannol ei gyflwyno – gan gynnwys Sir Benfro, gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Cymru – mae llefydd hyfforddi yn llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd mwy o lefydd hyfforddi yn cael eu llenwi yng Ngheredigion a chanol gogledd Cymru wrth i’r broses mynd yn ei flaen.

“Argoeli’n dda”

“Bydd cam dau o’r ymgyrch yn targedu nyrsys mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a’r sector cartrefi gofal ac fe gaiff ei lansio ym mis Mai. Bydd camau’r ymgyrch yn y dyfodol yn targedu fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

“Mae’r effaith sylweddol yr ydym wedi’i chael yn ystod y pum mis cyntaf yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. Rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod pobl Cymru yn cael ei GIG y maent yn ei haeddu.”