Neuadd Pantycelyn
Mae criw o fyfyrwyr sy’n ymgyrchu tros ailagor y neuadd breswyl Gymraeg yn Aberystwyth, wedi mynegi pryder am y costau o adnewyddu’r adeilad at bwrpas arall.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan y mudiad ‘Ffrindiau Pantycelyn’ yn dangos fod Prifysgol Aberystwyth wedi gwario £4,382.11 ar addasu’r neuadd yn swyddfeydd ar gyfer Adran Ystadau’r Brifysgol sy’n symud i’r ffreutur am gyfnod o chwe mis.

Mae’r costau’n cynnwys gosod cloeon, socedi trydan, arwyddion, ail-wneud y gegin, ac ailbeintio’r ffreutur a’r maes parcio rhwng 1 Ionawr ac 19 Mawrth 2017.

‘Gwastraff arian llwyr’

“Er bod yr Adran Ystadau wedi cael caniatâd UMCA i ddefnyddio’r ffreutur, roeddem o dan yr argraff na fyddai hyn yn arwain at wariant sylweddol,” meddai Manon Elin, myfyriwr ac aelod o Ffrindiau Pantycelyn.

“Mae’r ffaith i’r brifysgol wario dros £4,000 ar ddatblygiadau ar gyfer yr Adran Ystadau, sydd yn defnyddio’r ffreutur am chwe mis yn unig, yn wastraff arian llwyr.

“Rydyn ni’n anhapus â’r ffordd y mae’r Adran Ystadau wedi gosod cloeon yn y neuadd, a chymryd ystafelloedd ychwanegol, heb ymgynghori ag unrhyw un. Ein Neuadd ni yw Pantycelyn, nid Neuadd y Brifysgol,” meddai wedyn.

Protestio

Fis diwethaf, aeth criw i brotestio yn y neuadd am eu hanfodlonrwydd fod Adran Ystadau’r Brifysgol wedi symud eu swyddfeydd i Bantycelyn.

Mewn ymateb bryd hynny, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth – “symudodd staff Adran Datblygu Ystadau’r Brifysgol i mewn i Bantycelyn ddechrau mis Mawrth a hynny am gyfnod byr o chwe mis.

“Mae’r staff wedi eu lleoli yn y Ffreutur ond cyn iddyn nhw symud yno, fe wnaeth y Brifysgol ymgynghori gydag UMCA.

“Ers symud, mae’r Adran Ystadau wedi bod yn defnyddio pum ystafell fach ger y Ffreutur i storio offer swyddfa megis llungopïwr a pheiriant argraffu. Nid oedd hyn yn rhan o’r drafodaeth wreiddiol gydag UMCA ond mae’r Adran bellach wedi egluro pam eu bod angen defnyddio’r pum ystafell fach yma.

“Mae ystafelloedd gwaith eraill gyda chyfrifiaduron wedi’u darparu i fyfyrwyr ac mae ystafelloedd cyfarfod y neuadd yn parhau ar agor at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol.”

Ailagor erbyn 2019

Dywedodd llefarydd a ran y Brifysgol: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo cynlluniau i ailagor Pantycelyn fel neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr Cymraeg erbyn mis Medi 2019.

“Mae’r prosiect yn cadw at amserlen benodol tra bod y gwaith o sicrhau’r cyllid angenrheidiol yn parhau. Gan nad yw’r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel neuadd breswyl ar hyn o bryd ac yn dilyn ymgynghoriad gydag UMCA, mae Adran Datblygu Ystadau’r Brifysgol yn defnyddio rhai o’r ystafelloedd gwag dros dro am gyfnod o chwe mis. Mae hynny’n golygu bod ein tîm gwasanaethau eiddo yn nes at gampws Penglais.

“Fe fydd yr Adran Ystadau yn symud i safle parhaol ar gampws Penglais yn yr hydref.”