Fe allai graddedigion gael hyd at £20,000 yr un er mwyn eu denu hyfforddi i fod yn athrawon.

Bydd y cymhelliant yn targedu pobol â gradd 2:1 a 2:2 sydd am ddysgu Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Ond fe fydd y symiau mwya’n mynd i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf sy’n hyfforddi i fod yn athrawon Ffiseg, Cemeg, Mathemateg, Cymraeg, Cyfrifiadureg a Ieithoedd Tramor.

Mae ceisiadau i wneud cwrs hyfforddi athrawon ôl-raddedig wedi cynyddu 3.9% ac mae’r nifer sy’n cael eu derbyn wedi codi 2%.

“Mae’n bwysig, er bod nifer y swyddi gweigion ym maes addysgu yn gymharol isel yng Nghymru, ein bod yn denu graddedigion sydd â gwybodaeth arbenigol yn y pynciau sy’n flaenoriaeth gennym, fel Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg,” meddai Ysgrifennydd Addysg, Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams.

“Bydd y cymhelliannau ariannol hyn yn help i sicrhau hynny.”