Mi fydd canllawiau newydd, fydd yn atal heddlu rhag dal pobol ar fechnïaeth am gyfnodau hir, yn dod i rym heddiw.

Bydd yn rhaid i swyddogion heddlu ddilyn rheolau newydd, ac ni fydd modd caniatáu gosod mechnïaeth os caiff ei ystyried i fod yn angenrheidiol.

Hyd nawr, roedd y cyfyngiadau ar gyfnodau mechnïaeth yn llac gyda phobol yn cael eu dal ar fechnïaeth am fisoedd – blynyddoedd mewn rhai achosion – a’r mwyafrif helaeth yn cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Daeth y broblem i lygad y cyhoedd yn ystod Ymgyrch Yewtree, sef ymchwiliad mewn i gyhuddiadau o gam-drin rhywiol gan ffigyrau cyhoeddus.

Cafodd y diwygiadau eu hymgorffori ym Mil Heddlua a Throsedd 2015 a’u trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi mis Tachwedd 2016.

“Effeithlonrwydd a thegwch”

“Mae arestio heb dystiolaeth ddigonol yn ddibwrpas. Bydd y newidiadau yma yn sicrhau bod ymchwiliadau heddlu yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol,” meddai uwch arolygydd Heddlu De Cymru, Jason Davies.

“Bydd y newidiadau hefyd yn sicrhau lefel priodol o arolygaeth farnwrol lle mae angen er mwyn sicrhau tegwch.”