Mae dyn 27 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb nos ym Mangor yn oriau man bore Sadwrn.

Mae adroddiadau lleol yn dweud mai Henry Esin yw’r dyn sydd wedi marw.

Mae dyn 26 oed a gafodd ei arestio’n dilyn yr ymosodiad bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal clwb nos Peep toc cyn 2 o’r gloch fore Sadwrn, lle cawson nhw hyd i’r dyn yn anymwybodol.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’r bore ma.

Henry Esin

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Henry Esin, oedd yn chwarae pêl-droed i Lanfairpwll.

Ar eu tudalen Facebook, dywedodd y clwb ei fod yn “fonheddig ym mhob ystyr”.

Apêl

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am dystion.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn “parhau i weithio gyda deiliaid trwyddedau, busnesau ac asiantaethau sy’n bartneriaid i atal y fath ddigwyddiadau trasig”.