Kirsty Williams (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Dylai prifysgolion Cymru dalu’r cyflog byw i’w gweithwyr, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

O blith holl brifysgolion Cymru, dim ond Caerdydd sy’n cynnig y cyflog byw i’w staff ar hyn o bryd.

Ond fe ddylai’r prifysgolion eraill ddilyn eu hesiampl fel rhan o “genhadaeth sifig”, meddai Kirsty Williams wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

Ac mae hi wedi galw am reoli’r cyflogau uchaf yn y prifysgolion, gyda phob is-ganghellor yn derbyn mwy na £200,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

‘Cenhedaeth sifig’

Dywedodd Kirsty Williams: “Gobeithio y bydd prifysgolion yn gweld eu cenhadaeth sifig fel un sy’n sicrhau bod eu staff yn derbyn cyflog go iawn.

“Mae angen i’r prifysgolion hynny gydnabod y grym sydd ganddyn nhw yng Nghymru i wneud daioni.

“Ie, addysgu pobol, ond mae defnyddio’u grym, eu hadnoddau a’u cyfleusterau i gyfrannu i’r genedl gyfan a thalu’r cyflog byw i’r holl staff yn ffordd bwysig o wneud hynny.”

Cyflog byw

£8.45 yw’r cyflog byw ar hyn o bryd – sy’n sylweddol uwch na’r isafswm cyflog o £7.50 a gafodd ei addasu ddechrau’r mis.

Mae Kirsty Williams wedi galw ar HEFCW i sicrhau “cynnydd cyflym” er mwyn symud yn nes at drefn lle mae pawb yn derbyn y cyflog byw.

Mewn datganiad, dywedodd HEFCW eu bod nhw’n barod i “gydweithio â’r prifysgolion” er mwyn gweithredu argymhellion Kirsty Williams.