Kelly Price (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A481 ger Llanelwedd nos Fercher.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 7.50pm yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Lupo glas a lori.

Bu farw gyrrwr y car, Kelly Price, oedd yn 27 oed ac yn dod o Lanfair-ym-Muallt.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.