Y Rhinogydd ger Trawsfynydd (Llun: PA)
Mae cyrff pum aelod o’r un teulu a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad hofrennydd wedi cael eu casglu oddi ar fynyddoedd y Rhinogydd ger Trawsfynydd.

Bu farw’r pump yn y gwrthdrawiad ddydd Mercher ac maen nhw wedi cael eu henwi – Kevin Burke (56) a’i wraig Ruth (49), Donald Burke (55) a’i wraig Sharon (48), a Barry Burke (51).

Daw’r tri brawd a’u gwragedd o Milton Keynes, yn ôl Heddlu’r Gogledd.

Cafwyd hyd i’w cyrff ddydd Iau ar ôl i’w hofrennydd fethu â chyrraedd Dulyn.

Ymchwiliad

Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu hadnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach.

Mae’r crwner yn ymchwilio i’w marwolaethau, ac mae’r AAB yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am wybodaeth.