Mae dynes fu mewn gwrthdrawiad yn Llanelwedd nos Fercher wedi marw. Roedd Kelly Jane Price yn 27 oed ac yn dod o ardal Llanfair-ym-muallt.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Lupo glas a lori am tua deg munud i wyth nos Fercher, 29 Mawrth, ar yr A481.
Roedd Kelly Jane Price yn gyrru’r car. Ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu.
Mae teulu Kelly Jane Price wedi cael gwybod. Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu ei fod yn “meddwl amdanyn nhw yn ystod y cyfnod trist hwn”.
Mae gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio’r heddlu ar 101.