Mae Llywodraeth Cymru yn gyrru’r diwydiant pysgota o Gymru – yn ôl perchennog cwmni pysgota masnachol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Mae Sean Ryan, sefydlwr cwmni Welsh Seafoods, yn rhan o’r teulu sydd wedi bod yn casglu sgolops am yr hiraf yng Nghymru – ond mae’n dweud bod agwedd “anffafriol” Llywodraeth Cymru at y diwydiant pysgota yn gwthio nifer o’r wlad.

“I fod yn onest does ganddyn nhw ddim diddordeb yn y diwydiant pysgota. Yr unig ddiddordeb sydd ganddyn nhw yw twristiaeth. Maen nhw’n jôc i fod yn onest, jôc lwyr,” meddai Sean Ryan.

“Maen nhw’n gyrru pobol allan o Gymru. Dw i’n adnabod pobol yng ngogledd Cymru sydd wedi hel eu pac a symud i Loegr oherwydd roedden nhw wedi blino â’r driniaeth anffafriol gan Lywodraeth Cymru.

“Ry’ ni’n barod i dynnu allan o Gymru, a pan fyddwn ni’n mynd, ni fydd y mwyaf i fynd. Ni yw’r cwmni treill-longau mawr olaf. Rydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa yn awr lle rydym ni’n ystyried gadael.”

Yn ôl Sean Ryan, mae’n rhaid i gwmnïoedd yng Nghymru wynebu’r baich ariannol o uwchraddio sustemau a digomisiynu llongau, tra yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon “mae’r Llywodraeth yn sortio’r peth mas”.

Daw ei sylwadau wedi wrth i Lywodraeth Cymru lansio trefn newydd yfory, gyfer ffioedd trwyddedu morol fydd yn effeithio ar bob gweithgaredd morol trwyddadwy.

Yn ôl y Llywodraeth mi fydd y drefn newydd yn “gadarn, deg a thryloyw” gyda “bandiau ffioedd penodedig o £600 (Band 1) a £1,920 (Band 2) yn gymwys ar gyfer gweithgareddau ar raddfa fach a gweithgareddau arferol, yn y drefn honno. Bydd hefyd gyfradd yr awr o £120 (Band 3) yn daladwy ar gyfer y pecynnau gwaith mwyaf cymhleth.”.

Dywedodd Sean Ryan nad oedd wedi clywed am y newid a chyhuddodd Llywodraeth Cymru o beidio â chysylltu na chyfathrebu â’r diwydiant.

“Maen nhw’n tueddu hoffi siarad â sefydliadau maen nhw wedi sefydlu, dyna be’ maen nhw’n tueddu gwneud. Maen nhw’n siarad gyda rhyw ddau neu dri pherson, ond dyna’i gyda ma’ arna’i ofn.”

Dêl wael

Mae “llwythi” o herion yn wynebu gweithwyr diwydiant pysgota Cymru meddai Sean Ryan ac mae’n tynnu sylw at un digwyddiad penodol gafodd effaith sylweddol.

“Cafodd y diwydiant ei heffeithio’n wael iawn gan Alun Davies [y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd ar y pryd], pan lofnododd y ddêl sydd yn golygu bod gan Gymru gwota pysgota ei hun – er dywedodd gweinidogion wrtho beidio. Cafodd Cymru bron dim cwota pysgota.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.