Mae’r gost o roi presgripsiynau am ddim i bawb yng Nghymru wedi codi 45% ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r polisi, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae ffigurau’r blaid yn dangos bod polisi Llywodraeth Cymru wedi costio £593.7 miliwn ers ei gyflwyno yn 2007.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar faterion iechyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i symud at fodel mwy “fforddiadwy” o ddarparu presgripsiynau.

“Mae presgripsiynau am ddim i bawb yn syniad da ac anrhydeddus os oes gennych chi bwll diwaelod o arian, ond yn amlwg nid dyna’r achos i Wasanaeth Iechyd Cymru,” meddai Angela Burns AC.

Yn ôl y ffigurau, mae Cymru yn dosbarthu’r nifer uchaf o bresgripsiynau fesul y pen o gymharu ag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig – dros chwe gwaith yn fwy nag yn Lloegr a saith gwaith yn fwy nag yn yr Alban.

Gwario £5 miliwn ar paracetamol

“Mae ein cymdeithas ni’n mynd yn hŷn ac yn salach ac mae’n amlwg y bydd dibyniaeth ar foddion am ddim yn codi, gan fynd yn ddrutach ac yn ddrutach i’r Gwasanaeth Iechyd,” ychwanegodd Angela Burns.

“Nid yw’n iawn fod £5.1 miliwn wedi cael ei wario ar paracetamol yn unig y llynedd – sy’n gallu cael ei brynu am geiniogau mewn archfarchnadoedd – tra bod rhai cleifion yn cael eu hatal rhag cael moddion canser a allai achub eu bywydau, a hynny ar sail cost.”

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae angen trefn lle mae pobol sy’n gallu fforddio prynu moddion yn gorfod talu, oni bai eu bod yn dioddef o salwch cronig hirdymor.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n credu bod rhoi’r feddyginiaeth y mae pobl ei hangen yn helpu i’w cadw’n iach ac allan o’r ysbyty, gan leihau’r gost i’r Gwasanaeth Iechyd yn y pen draw.

“Cost presgripsiynau yn 2015 oedd £593m, dim ond £3m yn fwy na 2007 pan gyflwynwyd presgripsiynau am ddim. Mae hefyd yn bwysig nodi, cyn cyflwyno presgripsiynau am ddim ym mis Ebrill 2007, bod tua 88% o’r meddyginiaethau eisoes yn cael eu rhoi am ddim.

“Dydy’n polisi ni ar bresgripsiynau ddim yn golygu y dylai pobl ddisgwyl  cael unrhyw beth maen nhw’n ei ddymuno ar bresgripsiwn gan eu meddyg teulu; rhaid i’r clinigwyr wneud y penderfyniadau cywir ynghylch pryd i roi presgripsiwn neu beidio. Pan nad yw meddyginiaeth yn cynnig fawr ddim budd clinigol, os o gwbl, ni ddylid ei ddefnyddio. Dydy hynny’n ddim i’w wneud â phresgripsiynau am ddim, mae’n ymwneud ag arfer da clinigol.

“Dydy’r Ceidwadwyr ddim yn deall y byddai ailgyflwyno taliadau am bresgripsiynau yn gofyn am ddatblygu system cyfan gwbl newydd. Byddai costau cynnal y system honno a gwarchod rhag camddefnydd yn cyfyngu cryn dipyn ar unrhyw incwm posib fyddai’n dod o ailgyflwyno taliadau. Byddai hefyd yn diddymu’r manteision iechyd gwirioneddol rydyn ni’n teimlo bod pobl Cymru’n eu hennill drwy gael presgripsiynau am ddim.”