Swyddfa'r Cymro ym Mhorthmadog (Kenneth Allen CCA2.0)
Fe fydd grŵp bychan o bobol yn cyfarfod yn Nolgellau y prynhawn yma i drafod syniadau i geisio achub papur newydd Y Cymro.

Mae Golwg360 yn deall y bydd nifer o bosibiliadau’n cael eu hystyried – o’i gadw yn bapur newydd wythnosol ar bapur a’r We i geisio sefydlu papur dyddiol digidol.

Ynghynt yr wythnos yma, roedd ysgogydd y cyfarfod, Gruff ‘MC Mabon’ Meredith, wedi pwysleisio’r angen o gael y papur yn ôl i ddwylo Cymreig annibynnol.

Fe ddywedodd fod pobol o bob rhan o Gymru’n dangos diddordeb mewn ceisio achub y papur a gafodd ei sefydlu yn 1932.

Fe fydd y cyfarfod yn digwydd mewn caffi yn Nolgellau.

Yr hanes

Am y rhan fwya’ o’i oes, roedd Y Cymro yn cael ei gyhoeddi yn Lloegr, gan Bapurau Newydd Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt.

Y farn gyffredinol yw ei fod wedi cael oes aur yn yr 1950au dan olygyddiaeth John Rpberts Williams, gyda honiadau fod y gwerthiant ymhell tros 20,000.

Ers mwy na degawd mae wedi bod yn eiddo i gwmni mawr Prydeinig, Tindle, sydd hefyd yn berchnogion ar bapur lleol y Cambrian News.