Rhinog Fawr lle digwyddodd y ddamwain (blisco CCA3.0)
Mae’r gwaith o gasglu cyrff o’r ddamwain hofrennydd yn Eryri yn ail-ddechrau’r bore yma.

Hyd yma, mae’r tywydd gwael wedi rhwystro’r timau achub a’r heddlu ar fynydd Rhinog Fawr rhwng Harlech a Thrawsfynydd.

Mae manylion y rhai a fu farw bellach wedi eu cadarnhau – Kevin a Ruth Burke, perchnogion busnes o ardal Milton Keynes, brodyr y naill a’r llall ac un chwaer yng nghyfraith.

Mae aelod arall o’r teulu wedi apelio am lonydd i ddod i delerau â’r golled gan ddweud bod chwech o blant wedi colli eu rhieni yn y ddamwain echdoe.

Roedd gan Kevin a Ruth Burke ferch 19 oed a mab 14.

Y ddamwain

Dyw hi ddim yn glir eto sut y digwyddodd y ddamwain wrth i’r pump deithio o Luton i wasanaeth bedydd esgob yn Iwerddon.

Un ddamcaniaeth yw fod Kevin Burke wedi ceisio hedfan yn is oherwydd y tywydd difrifol yn y mynyddoedd ar y pryd.

Yn ôl rhai adroddiadau, roedd yr hofrennydd i fod i godi rhagor o danwydd yng Nghaernarfon.