Titw Tomos Las (Andre Karwath CCA 2.5)
Yn ôl ystadegau a gafodd eu cyhoeddi heddiw ar ôl arolwg gan elusen yr RSPB mae’r nifer o adar bach sydd yn ymweld â gerddi yng Nghymru wedi gostwng o gymharu â’r llynedd ond, yn ôl un arbenigwr yn y maes, does dim angen pryderu.

Mae niferoedd adar yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn fel llanw a thrai, a does dim patrwm hir dymor i’r cwymp yn ôl Cydlynydd Datblygiad yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig (BTO) yng Nghymru, Kelvin Jones.

Roedd y ffigurau’n dangos cwymp sylweddol yn nifer titwod y llynedd, ond roedd yna esboniadau am hynny, meddai wrth golwg360.

“Mae o fel ton, mae’n mynd ac yn dŵad. Ambell i flwyddyn gewch chi dymor nythu drwg, a’r flwyddyn ar ôl hynny falle gewch chi dymor nythu bendigedig.  Efallai y gaeaf nesa y bydd ’na domen o ditws yn y gerddi.”

Ffactorau Gwahanol

Mae’n debyg bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cwymp ond  tywydd y gwanwyn sy’n bennaf gyfrifol am achosi’r cwymp yn niferoedd y titw tomos las, y titw mawr a’r penddu ym mis Ionawr.

“Gawson nhw dymor nythu difrifol llynedd, mor hawdd â hynna. Oedd tywydd mor wael y gwanwyn diwetha’ gawson nhw ddim tymor nythu da felly oedd dim llawer o gywion.”

“Mae rhywfaint o oedolion yn dal i fod o gwmpas ond dydy’r niferoedd ddim yna oherwydd doedd cywion ddim yn goroesi.”

Er gwaetha’ ambell fygythiad mae Kevin Jones yn ffyddiog bod sawl ffactor ddigon diniwed wedi cyfrannu at y cwymp gan gynnwys natur anwyddonol yr arolwg – sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr lleyg – a’r ffaith fod tywydd eleni yn golygu nad oedd adar yn amlwg mewn gerddi yn chwilio am fwyd.

“Hefyd oedd yna lot o fwyd yn y gwyllt felly doedd yna ddim rheswm i’r rhai oedd ar ôl fynd i chwilio am fwyd yn y gerddi. Tasa hi wedi rhewi’n galed a bod rhaid iddyn nhw fynd i gerddi, mi fyddech wedi gweld mwy.”