Khalid Masood (Llun Heddlu Llundain)
Mae staff Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi bod yn ymweld â mam ymosodwr San Steffan yn ei chartref yn Nhrelech, Sir Benfro.

Fe glywodd y cwest i farwolaeth Khalid Masood fod swyddogion wedi bod yn siarad gyda Janet Ajao a hefyd gyda gwraig yr ymosodwr, Rohey Hydara.

Fe ddywedodd y Crwner yn Llys y Goron Westminster fod angen cydymdeimlo gyda theulu Khalid Masood gan eu bod nhwthau hefyd yn “ddioddefwyr” yn sgil y digwyddiad.

Manylion yr ymosodiad

Fe ddywedodd yr heddlu bod Khalid Masood wedi ei ladd gan blismon arfog  wedi iddo geisio torri i mewn i’r Senedd yn ystod ei ymosodiad ar Fawrth 22.

Roedd wedi gyrru ar y pafin wrth iddo yrru ar draws Pont Westminster cyn gadael y gar a pharhau a’i ymosodiad â dwy gyllell.

Yn ôl Ditectif Uwch-arolygydd yr heddlu Metropolitan, John Crossley, fe gyhoeddwyd fod yr ymosodwr yn farw am 3.35 y prynhawn, awr wedi i’r ymosodiad ddigwydd.

Dim ond am 82 eiliad y parhaodd yr ymosodiad ond cafodd pedwar person eu lladd gan yr ymosodwr, y swyddog heddlu Keith Palmer, 48, Kurt Cochran, 54, Leslie Rhodes, 75, ac Aysha Frade, 44.

Cafodd y cwest ei ohirio tan fis Mai.