Gwasanaeth newyddion lleol Milton Keynes yn mynegi pryder
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod timau achub wedi dod o hyd i bump corff yn Eryri wrth chwilio am hofrennydd coll.

Mae gwasanaeth newyddion lleol Milton Keynes yn dweud mai dyn busnes o’r ardal o’r enw Kevin Burke oedd yn berchen ar yr hofrennydd a fod pryder mawr ei fod ef yn un o’r pump.

Roedd yr hofrennydd yn teithio o Luton yn Lloegr i ardal Dulyn yn Iwerddon cyn iddo ddiflannu oddi ar y radar am tua 4:15 brynhawn ddoe.

Y chwilio

Fe ddechreuodd y chwilio ym Mae Caernarfon cyn i Heddlu Gogledd Cymru a thimau achub mynydd ganolbwyntio ar fynyddoedd Eryri.

Dyw’r union fan lle cafwyd hyd i’r pump ddim yn cael ei gyhoeddi am y tro er mwyn i’r achubwyr allu gorffen eu gwaith heb ymyrraeth ond mae’r awdurdodau wedi cadarnhau ei fod ym mynyddoedd y Rhinogydd, rhwng Harlech a Thrawsfynydd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd, Gareth Evans, o Heddlu Gogledd Cymru, nad yw’r heddlu’n cyhoeddi manylion am y dioddefwyr ond bod swyddogion arbenigol yn cefnogi eu teuluoedd.