Titw Tomos Las (Llun yr RSPB)
Mae cwymp wedi bod yn nifer yr adar bach yng ngerddi Cymru, yn ôl arolwg gan bobol gyffredin ar hyd a lled y wlad.

Roedd y cwymp mwya’ yn nheulu’r titwod ond, yn ôl trefnwyr yr arolwg, mae yna resymau arbennig am hynny.

Yn ôl arolwg Gwylio Adar Gardd elusen warchod adar yr RSPB, fe fu cwymp yn niferoedd y titw tomos las (-20%), y titw mawr  (-16%) a’r titw penddu (-16.6%) o gymharu â llynedd.

Tywydd yn ffactor

“Mae niferoedd yr adar bach fel y titw tomos las a’r titw mawr yn agored i newidiadau yn y tywydd gydol y flwyddyn,” meddai Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru, Stephen Bladwell.

“Mae gwyddonwyr o’r farn fod yr holl dywydd gwlyb yn ystod y tymor bridio yn 2016 wedi arwain at lai o adar ifanc yn goroesi na’r arfer, gan olygu bod llai ohonynt i’w gweld mewn gerddi.”

Cafodd 455,606 o adar eu cyfrif yn ystod yr arolwg ym mis Ionawr, gydag aderyn y to, y drudwy a’r titw tomos las ymhlith yr adar a gafodd eu gweld amlaf.

Ymwelydd amlwg

Fe arweiniodd yr hinsawdd at gynnydd sylweddol mewn un aderyn cymharol brin.

Fe fu cynnydd sylweddol yn nifer y cynffonau sidan a gafodd eu cofnodi – adar sydd yn ymddangos yng Nghymru unwaith pob saith neu wyth mlynedd pan fydd y cnwd aeron yn methu yn eu cynefin yn Sgandinafia.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod cynffonnau sidan wedi’u gweld mewn pum gwaith mwy o erddi yng Nghymru yn 2017, o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.