Mark Drakeford (Llun teledu'r Senedd)
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe ddylai Cymru gael rhagor o arian wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â rhagor o bwerau.

Fe fyddai’n rhaid cadw at addewidion ymgyrchwyr Brexit y byddai Cymru’n well ei byd ar ôl gadael, meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Ac fe bwysleisiodd y dylai pwerau Ewropeaidd mewn meysydd fel ffermio, pysgota a’r amgylchedd ddod i Gaerdydd, gan fod y cyfan eisoes wedi’u datganoli.

“Hawl”

“Fe addawodd ymgyrchwyr gadael, nid yn unig na fyddai Cymru’n waeth ei byd, ond y byddai’n well ei byd,” meddai Mark Drakeford mewn cyfweliad gyda Radio Wales. “Mae’n rhaid i’r arian y mae gyda ni hawl iddo ddod i Gymru wedi Brexit.”

Fe fyddai llawer o’r arian hwnnw yn ymwneud â datblygu economaidd a datblygu rhanbarthol ac fe awgrymodd Mark Drakeford mai Llywodraeth Cymru ddylai gael y grym tros y meysydd hynny hefyd.

Mewn meysydd fel ffermio, doedd dim cwestiwn beth bynnag, meddai – doedd hi ddim yn fater o ddod â phwerau’n ôl i Gymru, doedden nhw erioed wedi gadael.

  • Mae’r dadlau’n digwydd oherwydd y Papur Gwyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw i amlinellu’r Mesur Diddymu Mawr i ddadwneud cyfreithiau Ewropeaidd – mae Plaid Cymru hefyd wedi rhoi rhybudd tros rannu grymoedd.