Theresa May - 'rhethreg wag' meddai Leanne Wood (o gyfri trydar Theresa May)
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi rhybuddio gall y Bil Diddymu Mawr i ddileu deddfau Ewropeaid arwain at “fandaliaeth gyfansoddiadol”.

Mae wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth Prydain gipio grymoedd newydd a ddylai barn hi fod yn dod i Gymru – hynny er fod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi addo rhagor o bŵer i’r llywodraethau datganoledig.

Mae ei haddewidion hyd yma wedi bod yn “ddi-werth”, meddai Leanne Wood sy’n rhybuddio y gallai Llywodraeth Prydain “grafangu” am bwer.

‘Sbin’

Fe fydd Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi papur gwyn yn datgelu eu cynlluniau ar gyfer y Bil Diddymu Mawr a fydd yn dileu deddfau Ewropeaidd a, thros dro, yn eu troi’n ddeddfau Prydeinig.

“Dyw’r sbin a rhethreg wag o Downing Street ddim yn rhoi hyder i ni na fydd Cymru yn wynebu crafangiad arall am bŵer gan San Steffan,” medd Leanne Wood.

“Mae addewidion y Prif Weinidog eisoes wedi eu profi i fod yn ddi-werth o ystyried ei amharodrwydd am gydsyniad ar draws y Deyrnas Unedig cyn tanio erthygl 50.”